GWIRFODDOLI

Mae Paddle Cymru yn fudiad aelodaeth ac mae gwirfoddoli wrth galon ein mudiad a gweithgaredd clwb, o wirfoddolwyr clwb i aelodau Bwrdd a phwyllgor ni allem ei wneud heb wirfoddolwyr.


Mae ein clybiau, fel y rhan fwyaf o glybiau chwaraeon cymunedol, yn dibynnu’n fawr ar wirfoddolwyr ac mae rolau ym mhob agwedd ar fywyd clwb a sawl ffordd y gallwch wirfoddoli, gall hyd yn oed ychydig o amser wneud gwahaniaeth mawr.


  • Hyfforddi
  • Arwain
  • Pwyllgorau
  • Digwyddiadau
  • Club Administration and governance
  • On land or on the water


Mae yna rolau ar gyfer pobl â sgiliau gwahanol ac ar draws pob ystod oedran. Heb wirfoddolwyr ni fyddai modd rhedeg Paddle Cymru, a gweithgareddau padlo.


Pam gwirfoddoli?


Mae gwirfoddoli o fudd i'r gwirfoddolwr gymaint â'r person sy'n derbyn y cymorth. Trwy wirfoddoli gallwch roi hwb i'ch lles eich hun, tra'n cysylltu â'r gymuned, a chefnogi pobl o bob cefndir wrth iddynt fynd ar y dŵr. Dyma ychydig o fanteision gwirfoddoli:


  • Cyfarfod â phobl newydd a rhoi hwb i'ch sgiliau cymdeithasol.
  • Cynyddu eich hunanhyder a hyder eraill.
  • Hybu eich lles meddyliol a chorfforol.
  • Helpu i greu cymuned gynhwysol a chroesawgar.


Cysylltwch â Paddle Cymru neu eich clwb Chwaraeon Padlo lleol i wirfoddoli.

Share by: