Mae tîm Diogelu Paddle Cymru yma i gefnogi plant ac oedolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd padlo a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i glybiau, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, arweinwyr a darparwyr.
Rydyn ni i gyd yn chwarae rhan mewn sicrhau bod cymryd rhan mewn Chwaraeon Padlo yn brofiad cadarnhaol a diogel i bawb. Mae Paddle Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pawb sy’n cymryd rhan yn y gamp allu gwneud hynny mewn amgylchedd pleserus a diogel, sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn amddiffyn rhag niwed, bwlio a chamdriniaeth.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd corfforol a meddyliol pobl, eu lles, a'u hawliau dynol. Ei nod yw cefnogi lles cyfranogwyr a chadw pawb yn ddiogel.
Mae diogelu yn berthnasol i bawb, a chyfrifoldeb pob person yw sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.
Mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth ac ystyriaeth o ran diogelu ar blant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys oedolion a all dderbyn cymorth gan dimau gofal, yn ogystal ag oedolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu anableddau corfforol.
Mae Paddle Cymru yn argymell yn gryf bod pob clwb sydd ag aelodau neu gyfranogwyr o dan 18 oed yn mabwysiadu polisi diogelu a gweithdrefnau ategol a bod pob aelod yn ymwybodol ohono.
Os ydych am roi gwybod am bryder neu os oes angen cymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â’n Swyddog Arweiniol Diogelu a Chydraddoldeb, Kerry Skidmore: