Mae ystod o gyrsiau hyfforddi diogelu a chyfleoedd dysgu ar gael, o ymwybyddiaeth sylfaenol i hyfforddiant arbenigol. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i alluogi staff, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr mewn rolau amrywiol i gynyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn diogelu plant yn effeithiol.
Yn dilyn cyhoeddi Deddf Gofal 2014, mae nifer cynyddol o gyrsiau hyfforddi Diogelu Oedolion ar gael. Ymddiriedolaeth Ann Craft yw'r awdurdod arweiniol ar ddiogelu oedolion a gall ddarparu hyfforddiant Diogelu penodol i chwaraeon, ewch i'w gwefan am ragor o fanylion.
Yn dibynnu ar eich rôl ac amlder y gwaith yr ydych yn ei wneud gyda Phlant a Phobl Ifanc, bydd gofyn i chi gwblhau gwahanol lefelau o Hyfforddiant Diogelu. Er mwyn helpu i nodi'r cwrs hyfforddi priodol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyfforddi yma.
G21 Gofynion Hyfforddiant Diogelu
Os ydych am roi gwybod am bryder neu os oes angen cymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â’n Swyddog Arweiniol Diogelu a Chydraddoldeb, Kerry Skidmore: