Rydym yn partneru â Paddle UK i gofnodi pob digwyddiad sy’n digwydd ar ein dyfrffyrdd – bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i wella diogelwch a gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar bob padlwr.
Gallwch helpu drwy gofnodi pob digwyddiad drwy ein system adrodd am ddigwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys popeth o ddamweiniau ac anafiadau i wrthdaro â defnyddwyr dŵr eraill - ac mae ar gyfer pob padlwr, nid dim ond aelodau Paddle Cymru, Paddle UK, Paddle Scotland neu Paddle NI.
I lenwi'r ffurflen, cliciwch ar y botwm isod a fydd yn mynd â chi drwodd i'r system adrodd.
Os ydych yn aelod o Paddle Cymru a’ch bod yn credu y gallai’r digwyddiad arwain at hawliad yswiriant, dilynwch y canllawiau ar gyfer adrodd am ddigwyddiad i’r yswirwyr hefyd.