PREIFATRWYDD A DIOGELU DATA

Mae Paddle Cymru yn cymryd preifatrwydd unigolion a diogelu data o ddifrif ac rydym am sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch yn ddiogel.


Datganiad Gwefan

Mae casglu gwybodaeth bersonol benodol, berthnasol yn rhan hanfodol o allu darparu unrhyw wasanaethau y gallwch ofyn amdanynt gennym ni neu wrth ddarparu gwasanaethau i'n haelodau a rhanddeiliaid a rheoli ein perthynas â chi.


Pan fyddwn yn cadw neu’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel rheolydd data byddwn yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i chi. Mae hwn yn nodi pa wybodaeth sydd gennym amdanoch, fel manylion cyswllt a chyfeiriad. Bydd hefyd yn dangos sut y gellir defnyddio eich gwybodaeth bersonol, y rhesymau dros y defnyddiau hyn, a'ch hawliau.


Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol oddi wrthych yn uniongyrchol, byddwn yn darparu’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar yr adeg y byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol oddi wrthych. Pan fyddwn yn derbyn eich gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, byddwn yn darparu’r hysbysiad preifatrwydd hwn pan fyddwn yn cysylltu â chi gyntaf, yn trosglwyddo’r data i rywun arall yn gyntaf, neu o fewn mis, p’un bynnag sydd gynharaf.


Yn gyffredinol, dim ond unwaith y byddwn yn darparu’r hysbysiad preifatrwydd hwn i chi, ar ddechrau ein perthynas â chi. Fodd bynnag, os caiff yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol ei ddiweddaru'n sylweddol, yna efallai y byddwn yn rhoi manylion y fersiwn wedi'i diweddaru i chi. Fe'ch anogir i wirio yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.


Gweler ein dogfen Hysbysiadau Preifatrwydd isod a Pholisïau eraill Paddle Cymru ynghylch diogelu data.

Os bydd ymholiad neu gŵyn yn ymwneud â’r wybodaeth sydd gennym, e-bostiwch: admin@paddlecymru.org.uk


Os hoffech roi gwybod am dorri rheolau diogelu data gyda Paddle Cymru llenwch y ffurflen torri data ar-lein hon.

Share by: