Ceufad yw ein cylchgrawn chwarterol, sy'n rhoi sylw i bopeth sy'n bwysig ym myd chwaraeon padlo yng Nghymru.
Yn gyntaf ac yn bennaf mae'n gylchgrawn am badlo - amser ar y dwr yng Nghymru a thramor. Rydym hefyd yn ei ddefnyddio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n haelodau am ddyddiadau cyrsiau, manylion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cyfleoedd hyfforddi a newyddion o'r afon.
Cyhoeddir Ceufad 4 gwaith y flwyddyn: bob mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Mae holl aelodau Ar y Dŵr ac Ar y Banc yn cael copi fel rhan o’u haelodaeth, ac rydym hefyd yn ei gylchredeg mewn fformat digidol i bobl y mae’n well ganddynt ei ddarllen ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gyhoeddiadau neu erthyglau i'w cynnwys, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gyrrwch linell atom yn ceufad@paddlecymru.org.uk neu postiwch hi atom i gyfeiriad Paddle Cymru.
Sylwer: I dderbyn rhifynnau print o Ceufad, rhaid i aelodau ddarparu cyfeiriad post DU. Os byddai'n well gennych beidio â derbyn copi print (a derbyn y fersiwn digidol yn unig), gallwch optio allan o dderbyn Ceufad drwy'r post trwy newid eich dewisiadau Optio i mewn ar eich proffil aelod ar-lein.