Mae clybiau'n gysylltiedig am gyfnod o flwyddyn o'ch dyddiad cychwyn a rhaid eu hadnewyddu'n flynyddol i gynnal yswiriant parhaus.
Er mwyn dangos y logo ac enw da Paddle Cymru bydd angen i'ch clwb fod yn sefydliad aelodaeth sydd â chyfansoddiad priodol, sydd â chyfrif banc clwb, ac sydd â pholisïau yn eu lle ar gyfer diogelu a gweithdrefnau gweithredu diogel.
Os ydych chi'n ystyried dod yn Glwb Cysylltiedig ac os hoffech gael rhywfaint o gefnogaeth, cysylltwch ag un o'n Tîm.
Mae'n ofynnol i unrhyw aelod o'ch clwb nad yw'n aelod Llawn neu Hamdden Paddle Cymru fod yn Aelod Cyswllt.
Diffinnir Gweithgaredd Clwb fel unrhyw weithgaredd sydd wedi'i asesu fel rhan o fframwaith diogelwch y clwb a'i hyrwyddo ar galendr y clwb, gwefan/ar-lein neu hysbysfwrdd. Mae gweithgareddau clwb hefyd yn cynnwys gweithgareddau rhwng clybiau lle mae'r cyfrifoldeb am asesu a rheoli risg yn cael ei gyflawni a'i rannu rhwng yr holl glybiau sy'n cymryd rhan. Dim ond ar gyfer Gweithgaredd Clwb y mae aelodau cyswllt yn cael eu hyswirio.
Bydd angen Polisi Preifatrwydd Data ar glybiau hefyd i gytuno gyda’u haelodau, mae angen i hyn roi’r gallu i’r clwb rannu gwybodaeth am aelodau gyda Paddle Cymru at ddibenion rhedeg y gamp, yswiriant a thracio cymwysterau aelodau.
Gweler y dogfennau isod ar gyfer clybiau cysylltiedig. Gellir dod o hyd i adnoddau ychwanegol yma.
The Environmental Definitions and Deployment Guidance for Instructors, Coaches and Leaders document provides guidance and environmental definitions that can be applied when choosing paddlesport activity.