Mae'r Gwobrau Perfformiad Personol newydd wedi'u cynllunio ar gyfer padlwyr sydd am ennill cydnabyddiaeth o'u dysgu a'u datblygiad, yn y grefft a'r amgylchedd o'u dewis.
Mae'r broses o gwblhau'r gwobrau yn seiliedig ar ddysgu. Ethos 'cefnogi'r padlwr' yw prif ffocws yr holl wobrau, gan annog unigolion yn eu datblygiad personol.
Dysgwch fwy am y gwobrau Dechrau a Darganfod a dewch o hyd i ddarparwr cwrs yn gopaddling.info
Dysgwch fwy am y Paddle Explore a'r ystod eang o ddyfarniadau disgyblaeth-benodol isod. Mae dyddiadau cyrsiau ar gael yma (yn y map cyrsiau a digwyddiadau) neu dewch o hyd i ddarparwr cwrs yn ein darganfyddwr darparwr cyrsiau.
Os ydych chi'n hyfforddwr neu'n arweinydd a hoffech chi gyflwyno rhai Gwobrau Perfformiad Personol, beth am gwblhau'r e-ddysgu byr a bod yn barod i helpu eraill?