Cyhoeddiad: Alistair Dickson i roi'r gorau iddi fel Prif Swyddog Gweithredol Paddle Cymru
11 February 2025

HOME / NEWS / Current Post

Gydag emosiynau cymysg, rydym yn cyhoeddi y bydd Alistair Dickson, Prif Swyddog Gweithredol Paddle Cymru (Canŵ Cymru gynt), yn camu i lawr o'i rôl ym mis Mawrth 2025. Ar ôl pedair blynedd o wasanaeth ymroddedig, mae Alistair wedi penderfynu dilyn uchelgais gydol oes fel capten yn y Ras Cliper 2025/26.

Yn ystod ei gyfnod gyda ni, mae Alistair wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Paddle Cymru. Bu'n arwain y sefydliad yn llwyddiannus drwy heriau’r pandemig COVID-19, gweithredodd strwythurau llywodraethu gwell, gan gynnwys datblygu fframwaith is-bwyllgor, ac adeiladodd dîm staff talentog ac ymroddedig. O dan ei arweinyddiaeth, lansiwyd ein hunaniaeth wedi'i hailfrandio fel Paddle Cymru a chreu cynllun strategol 2024–2028, sy'n gosod cwrs ysbrydoledig ar gyfer dyfodol y sefydliad.
 

Mae gweledigaeth, angerdd ac arweinyddiaeth Alistair wedi gadael marc annileadwy ar Paddle Cymru. Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith y Bwrdd a'r staff fel ei gilydd, a diolchwn iddo am ei gyfraniadau rhagorol i'n cymuned.


Dywedodd Kerry Chown, Cadeirydd Paddle Cymru:
  "Mae Alistair wedi bod yn arweinydd ysbrydoledig ac yn sbardun y tu ôl i'r cynnydd y mae Paddle Cymru wedi'i wneud dros y pedair blynedd diwethaf. Mae ei ymrwymiad diwyro i'r sefydliad a'n cymuned padlo wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Er ein bod yn drist ei weld yn mynd, rydym hefyd yn hynod falch ac yn gyffrous iddo wrth iddo ymgymryd â'r her anhygoel hon. Ar ran y Bwrdd, y staff a'r gymuned ehangach, rydym yn diolch iddo am ei waith caled a'i ymroddiad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ym mhennod nesaf ei daith."


Mae datrysiad dros dro yn cael ei drefnu ar hyn o bryd i sicrhau trosglwyddiad llyfn, a bydd y broses o recriwtio olynydd Alistair yn cychwyn yn fuan wedi hynny.
 
Rydym yn dymuno'r gorau i Alistair wrth iddo gychwyn ar yr antur newydd anhygoel hon a gobeithio y bydd yn cario ysbryd Paddle Cymru gydag ef wrth iddo ymgymryd â'r her gyffrous hon.


Diolch i chi, Alistair, am bopeth rydych chi wedi'i wneud i wneud Paddle Cymru’r hyn ydyw heddiw.
 

CONTACT THE MEDIA TEAM

If you have a story that would be of interest to the Paddle Cymru team please get in touch using the online contact form linked below or get in contact using one of our social feeds.

CONTACT

SIGN UP TO CEUFAD MAGAZINE

Ceufad is our quarterly magazine, covering everything that's important in Welsh paddlesport.

Click here to find out more.

News Item Enquiry

Share Post

11 February 2025
Nos Fawrth, croesawodd Canŵ Cymru dros 80 o bobl i'w Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar-lein.
by Emily King 11 February 2025
Wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae'n bwysig cydnabod y cyfraniadau amrywiol y mae Americanwyr Affricanaidd wedi'u gwneud trwy gydol hanes. Mae un cyfraniad o'r fath yn gorwedd o fewn traddodiadau morwrol Bae Chesapeake—datblygiad Canŵ Boncyff Bae Chesapeake. Nid yn unig wnaeth y llong unigryw hon chwyldroi’r diwydiant wystrys yn y 19eg ganrif ond mae hefyd yn dyst i ddyfeisgarwch a chrefftwaith cymunedau Americanwyr Affricanaidd.
by Andy Turton 11 February 2025
Mae Gwobrau Partner Cyflenwi 2024 yma i gydnabod a dathlu'r cyflawniadau rhyfeddol, yr arferion gorau, a'r ymroddiad o fewn ein Partneriaeth Gyflenwi. Mae'r gwobrau hyn yn anrhydeddu'r rhai sy'n mynd i’r eithaf i ymgorffori ein gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn Siarter y Partner Cyflenwi.
View More
Share by: